# Datblygwr Gwe

## Disgrifiad o'r Swydd

### Amcanion

Fel aelod o dîm Empyrean, byddwch yn:

1. Gweithredu atebion datblygu i gleientiaid mewnol ac allanol (Hanfodol)
2. Darparu cymorth llinell gyntaf ac ail linell i'n cleientiaid (Hanfodol)
3. Gweithio gyda'r tîm i sicrhau'r canlyniadau gorau i ddefnyddwyr ac i'r cleient (Hanfodol)
4. Mabwysiadu meddylfryd dechrau arni, yn gweithio ar y cyd ac yn helpu i sbarduno twf (Dymunol)

### Tasgau

1. **Gweithredu atebion datblygu i gleientiaid mewnol ac allanol**
   - Adolygu manylebau y cytunwyd arnynt a'u defnyddio i ddylunio, codio, profi a dogfennu rhaglenni neu sgriptiau o gymhlethdod amrywiol, gan ddefnyddio'r safonau a'r offer cywir
   - Helpu i gwmpasu ac i baratoi amcangyfrifon ar gyfer cwblhau gwaith datblygu
   - Cyfrannu at benderfyniadau saernïol technegol yn ôl yr angen
   - Ysgrifennu cod glân, diogel, gan ddilyn dull seiliedig ar brofi, sy'n agored yn ddiofyn ac yn hawdd i bobl eraill ei ailddefnyddio
   - Adolygu cod sy'n cael ei ysgrifennu gan aelodau eraill o'r tîm a darparu adborth adeiladol yn ôl yr angen
   - Gwneud yn siŵr bod meddalwedd monitro ac adrodd, fel Jira, yn gyfredol er mwyn gallu cadw golwg ar gynnydd a bod y tîm yn gallu cydweithio.

2. **Darparu cymorth llinell gyntaf ac ail linell i'n cleientiaid**
   - Darparu gwasanaeth cymorth o ansawdd uchel i gleientiaid, gan drwsio namau yn dilyn gweithdrefnau y cytunwyd arnynt, yn brydlon
   - Cyflawni tasgau cynnal a chadw ar seilwaith yn ôl yr amserlen ofynnol
   - Cynnal adolygiadau diogelwch a gwneud gwaith adfer y cytunir arno
   - Cyfathrebu â'r tîm a chleientiaid, a diweddaru'r feddalwedd desg gwasanaeth gyda'r cynnydd.

3. **Gweithio gyda'r tîm i sicrhau'r canlyniadau gorau i ddefnyddwyr ac i'r cleient**
   - Tynnu sylw at feysydd i'w gwella mewn codau blaenorol a darparu atebion
   - Rhannu gwybodaeth â'r tîm i wneud yn siŵr bod pobl eraill yn gallu codi tasgau
   - Mentora aelodau eraill o'r tîm
   - Bod yn hyblyg a helpu'r tîm yn ôl yr angen.

4. **Mabwysiadu meddylfryd dechrau arni, gweithio ar y cyd a helpu i sbarduno twf**
   - Bod yn hyblyg a chwilio'n barhaus am gyfleoedd i wella popeth rydym yn ei wneud
   - Helpu i ddiffinio a chadw golwg ar ein hamcanion a'n canlyniadau allweddol (OKRs)
   - Adeiladu rhwydweithiau cryf yn yr ED i nodi a manteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau mae eraill yn eu harwain

### Job Spec

- **Permanent**
- **O bell gyda theithio i Dde Cymru a De Orllewin Lloegr**
- **Yn dibynnu ar brofiad**
- **Deadline:**

June 13, 2026

- **Contact:**
[Kathy Clark](/content/ein-pobl/kathy-clark/index.html)

### Share this job

[Gwefan newydd i Nofio Cymru](/content/blog/newyddion/gwefan-newydd-i-nofio-cymru/index.html)

---
